OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 2486 (Cy. 270)
garddwriaeth, CYMRU
Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith, o ran Cymru, i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 dyddiedig 7 Mehefin 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â'r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu (OJ Rhif L 157, 15.6.2011, t.1) “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
Mae Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011 yn cydgrynhoi Rheoliad (EC) Rhif 1580/2007 (OJ Rhif L 350, 31.12.2007, t.1) a oedd wedi ei ddiwygio.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009, O.S. 2009/1551 (Cy. 151) er mwyn diweddaru'r cyfeiriadau angenrheidiol at ddeddfwriaeth berthnasol yr UE.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yn effeithio ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 2486 (Cy. 270)
garddwriaeth, CYMRU
Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 18 Hydref 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Hydref 2011
Yn dod i rym 8 Tachwedd 2011
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn yr adran honno o'r Ddeddf honno ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at ddarpariaethau Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011([3]) yn yr offeryn y mae'r Rheoliadau hyn yn ei ddiwygio i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi([4]).
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Cynnyrch
Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 8 Tachwedd 2011.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009
2. Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygio cyfeiriadau at “rheolau marchnata’r Gymuned”
3. Yn lle “rheolau marchnata’r Gymuned”, ym mhob man (gan gynnwys pennawd rheoliad 4) lle y mae’n digwydd rhodder “rheolau marchnata’r UE”.
Diwygio rheoliad 2
4. Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1), yn lle'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder—
“ystyr “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011” (“Commission Implementing Regulation 543/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 dyddiedig 7 Mehefin 2011 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â'r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu([6]), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”;
(b) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle’r diffiniad o “rheolau marchnata'r UE” (fel y’i diwygiwyd gan reoliad 3), rhodder—
“ystyr “rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”) yw’r safon farchnata gyffredinol a’r safonau marchnata penodol sy’n cwmpasu ffrwythau a llysiau ffres a restrir yn Rhan IX o Atodiad I i Reoliad y Cyngor 1234/2007, ac sy’n cynnwys y rheolau sy’n ymwneud â’r safonau hynny a geir yn Erthyglau 113 ac 113a o Reoliad y Cyngor 1234/2007 ac yn Nheitl II o Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;
(ii) yn lle’r diffiniad o “safonau marchnata cyffredinol”, rhodder—
“ystyr “safon farchnata gyffredinol” (“general marketing standard”) yw gofynion Erthygl 113a(1) o Reoliad 1234/2007 fel y’u rhoddir yn Erthygl 3(1) a Rhan A o Atodiad I i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;
(iii) yn y diffiniad o “safonau marchnata penodol”, yn lle “Erthygl 2a(2) a Rhan B o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn 1580/2007” rhodder “Erthygl 3(2) a Rhan B o Atodiad I i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
Diwygio rheoliad 3
5. Yn rheoliad 3(1), yn lle “Erthygl 8(1)(b) o Reoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Erthygl 9(1)(b) o Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
Diwygio rheoliad 4
6. Yn rheoliad 4(3), yn lle “Rheoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
Diwygio rheoliad 8
7. Yn rheoliad 8(2), yn lle “Atodiad VI i Reoliad y Comisiwn 1580/2007”, rhodder “Atodiad V i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn 543/2011”.
Amnewid yr Atodlen
8. Yn lle'r Atodlen, rhodder yr Atodlen ganlynol.
“YR ATODLEN
Rheoliad 4(3) Darpariaethau o dan Reoliad Gweithredu’r
Comisiwn 543/2011
Colofn 1 Darpariaeth berthnasol Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn 543/2011 |
Colofn 2 Darpariaeth Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn 543/2011 i'w darllen gyda'r ddarpariaeth yng ngholofn 1 |
Colofn 3 Y pwnc |
Erthygl 5(1) |
Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 5(2) i (4), Erthygl 6, Erthygl 7 |
Gofyniad cyffredinol ar gyfer manylion gwybodaeth |
Erthygl 5(2) |
Atodiad I, Erthygl 5(1), (3) a (4), Erthygl 7 |
Y gofynion ar gyfer manylion gwybodaeth mewn dogfennau sy'n mynd gyda llwythi swmpus a nwyddau a lwythir yn uniongyrchol ar gyfrwng cludo |
Erthygl 5(3) |
Atodiad I, Erthygl 5(1) a (4), Erthygl 7 |
Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn achos contractau o bell sydd i fod ar gael cyn cwblhau'r pryniant |
Erthygl 5(4) |
Atodiad I, Erthygl 5(1) i (3), Erthygl 7 |
Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth ar anfonebau a dogfennau sy'n mynd gyda hwy |
Erthygl 6 |
Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 7 |
Gofyniad ar gyfer manylion gwybodaeth yn y cyfnod manwerthu |
Erthygl 7(1) |
Atodiad I, Erthygl 4(3), Erthygl 6, Erthygl 7(2) a (3) |
Y gofynion ar gyfer gwerthu cymysgeddau o wahanol fathau o ffrwythau a llysiau |
Erthygl 10(6) |
Erthygl 10(1) i (5) |
Gofyniad i fasnachwyr ddarparu gwybodaeth a ystyrir gan Aelod-wladwriaethau yn angenrheidiol i'r gronfa ddata |
Erthygl 11(4) |
Erthygl 11(1) i (3), Erthygl 12, Erthygl 14 ac Atodiad III, Erthygl 15 |
Gofyniad i fasnachwyr ddarparu i gyrff arolygu bob gwybodaeth sy'n ofynnol ganddynt i drefnu a chyflawni eu gwiriadau cydymffurfio |
Erthygl 17(3), yr is-baragraff olaf |
Erthygl 10, Erthygl 17(1), (2) a gweddill (3), Atodiad V |
Gofyniad i fasnachwyr ddarparu pob gwybodaeth y bernir ei bod yn angenrheidiol gan y corff arolygu ar gyfer dull yr arolygiad”. |
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2011